AC(4)2012(2) Papur 3 rhan 1
Dyddiad: Dydd Iau, 8 Mawrth
2012
Amser: 11.00 – 13.00
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd
Enw a rhif cyswllt yr awdur: Iwan Williams, est
8039
Fframwaith ar gyfer adroddiad blynyddol a datganiad cyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2011-12
1.1 Mae’r papur hwn yn rhoi amlinelliad o gynnwys arfaethedig Adroddiad Blynyddol a Datganiad Cyfrifon 2011-12.
2.1 Gofynnir i’r Comisiwn gytuno ar yr amlinelliad arfaethedig ar gyfer Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2011-12.
2.2 Yn unol â pholisi cynaliadwyedd y Cynulliad, bydd yr adroddiad llawn ar gael ar-lein yn unig, er y dosberthir fersiynau cryno wedi’u hargraffu yn nigwyddiadau’r haf a thrwy ystâd y Cynulliad. Rhoddir ystyriaeth gofalus i sicrhau eu bod yn cael eu dosbarthu i fannau cyhoeddus priodol, fel llyfrgelloedd cyhoeddus.
3.1 Caiff Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2011-12 eu llunio gan ystyried y wybodaeth sydd ei hangen ar gynulleidfa allanol, sef y cyhoedd yn bennaf, ond bydd angen ystyried pobl eraill sydd â diddordeb hefyd, sef Aelodau’r Cynulliad, eu staff cymorth, y cyfryngau a rhanddeiliaid eraill.
3.2 Y bwriad yw y bydd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau strategol ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad, gyda phwyslais pendant ar ddatblygu Cynulliad ar gyfer y dyfodol. Bydd yn cynnwys:
a. y paratoadau ar gyfer yr etholiad a diddymu’r Cynulliad;
b. yr etholiad ac Aelodau newydd;
c. gwaith Comisiwn newydd y Cynulliad (a fydd yn cynnwys cyflwyno’r Bil Ieithoedd Swyddogol a’r strategaeth ar ei gyfer);
d. trefniadau newydd ar gyfer busnes y Cynulliad (sy’n cynnwys cyfeiriad at newidiadau i strwythur y pwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn a phrif ffrydio materion Ewropeaidd);
e. gwaith y Bwrdd Taliadau, gwaith archwilio mewnol, datblygu proffesiynol parhaus, a gwaith y Comisiynydd Safonau.
3.3 Y fframwaith arfaethedig ar gyfer adroddiad blynyddol 2011-12 yw:
a. Rhagair y Llywydd;
b. Cyflwyniad gan Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad;
c. Datblygu Cynulliad ar gyfer y dyfodol;
d. Agoriad Brenhinol y Pedwerydd Cynulliad - y diwrnod ar ffurf lluniau, gan gynnwys deunydd fideo o ddigwyddiadau allweddol, fel araith y Llywydd ac araith y Frenhines;
e. Bywgraffiadau byr ar y 60 o Aelodau’r Cynulliad;
f. Amlinellu rôl a chyfrifoldebau Aelodau’r Cynulliad drwy amlygu eu gwaith yn y meysydd a ganlyn:
i. cynrychioli buddiannau etholwyr;
ii. gwneud cyfreithiau i Gymru;
iii. dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif;
g. Datganiad o gyfrifon, gan gynnwys crynodeb y rheolwyr.
3.4 Bydd y fersiwn Saesneg o’r Adroddiad Blynyddol ar gael i’w adolygu ar 14 Mehefin 2012, pan gaiff ei anfon i’w gyfieithu.
3.5 Caiff yr Adroddiad Blynyddol a’r Datganiad o Gyfrifon eu gosod gerbron y Cynulliad ar 12 Gorffennaf 2012 a’u cyhoeddi ar-lein ar yr un diwrnod.